Wednesday 17 February 2010

Siom wrth ddarganfod bagiau elusenl

Mae ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Clwyd Llyr Huws Gruffydd a thrigolion yn Erw Goch, Rhuthun wedi mynegi eu siom o ddarganfod fod bagiau oedd i gael eu dosbarthu i dai lleol ar ran Barnardo’s Cymru wedi cael eu taflu i fin sbwriel – a hynny fe ymddengys gan y person oedd yn eu dosbarthu.

LLUN: Llyr Huws Gruffydd a Michelle Jones (un o drigolion Erw Goch) gyda rhai o’r bagiau elusen a gafodd eu gadael.

Dywedodd Llyr, a fydd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol:

“Tynnodd rhai o drigolion Erw Goch fy sylw at ddarganfyddiad nifer o sachau casglu gyda manylion Barnardo’s arnynt. Dyma’r math o fagiau a ddosberthir yn gyson gan nifer o elusennau sy’n casglu dillad ac eitemau eraill megis nwyddau cartref.

"Roedd ‘na siom mawr y gallai rhywun oedd yn casglu ar ran elusen wneud y fath beth, ac roedd rhai’n gofidio y gallai’r bagiau fod wedi cael eu gadael gan unigolion yn gweithio i gwmni anghyfrifol allai fod yn gweithredu scam.

"Unwaith death hyn i’m sylw fe gysylltom yn syth â Barnardo's Cymru, a gadarnhaodd mai eu bagiau hwy oeddynt."

Dywedodd un o’r trigolion lleol, Michelle Jones, ei bod yn flin iawn pan ddywedodd cymydog wrthi am y darganfyddiad:

"Roedd fy nghymydog yn cadw llygad ar y tŷ drws nesaf tra bod y perchennog oedrannus i ffwrdd, ac fe ddaeth o hyd i lwyth o fagiau Barnardo’s yn y bin sbwriel. Mae’n ymddangos fod y person oedd yn eu dosbarthu wedi penderfynu peidio trafferthu mynd â nhw i rhagor o dai yn y stryd gan eu gwaredu yn y bin.

"Mae’n warthus bod rhywun sydd i fod yn gweithio ar ran elusen yn medru gwneud rhywbeth fel hyn. Pwy a wyr nad oes rhagor o fagiau wedi cael eu taflu i ffwrdd yn rhywle arall, ac mi fydd Barnardo’s o ganlyniad yn colli allan."

Ychwanegodd Llyr:

"Roedd Barnardo's Cymru yr un mor siomedig â ni. Rwy’n deall eu bod yn cymryd camau yn syth i geisio olrhain pwy oedd yn gyfrifol am hyn gan ddweud y byddan nhw’n delio â’r mater mewn modd addas.

"Mae’n drist a dweud y lleiaf bod rhywun yn medru gwneud hyn, yn enwedig ar adeg pan fod elusennau’n gorfod chwilio’n ddyfal am gyfraniadau. Mae Barnardo’s, sy’n gwneud gwaith ardderchog yng Nghymru, yn amlwg wedi colli allan ar gyfraniadau posib fan hyn.

"Rwy’n gofyn i unrhyw drigolion eraill yn Rhuthun a threfi eraill yn yr ardal i fod yn wyliadwrus rhag ofn bod rhywbeth tebyg wedi digwydd yn eu hardal nhw, ac os ydyw, i gysylltu â Barnardo's Cymru."


No comments: