Monday 15 February 2010

Plaid : isafswm pris ar alcohol i achub y dafarn draddodiadol

Mae tafarndai’n wynebu argyfwng ac mae ymgeisydd Plaid Cymru dros Orllewin Clwyd Llyr Huws Gruffydd ac Aelod Cynulliad gogledd Cymru Janet Ryder am weld gweithredu i’w cefnogi. Mae’nt yn galw am gyflwyno isafswm pris ar alcohol er mwyn achub y dafarn draddodiadol ac mae nhw am glywed barn tafarnwyr lleol.

Mae’r ddau wleidydd am weld cyflwyno’r isafswm pris ar alcohol er mwyn cynorthwyo tafarndai yn eu brwydr yn erbyn prisiau rhad yr archfarchnadoedd. Yn ogystal â chynorthwyo’r diwydiant tafarnau, teimlant y byddai codi pris yr alcohol rhad yn cynorthwyo i atal pobl ifanc rhag yfed yn afresymol gan gynorthwyo i leihau lefelau tor-cyfraith.

Dywedodd Llyr, a fydd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol:

“Mae nifer o dafarnwyr lleol wedi lleisio’u gofidiau ynglyn â’r trafferthion mae nhw’n eu hwynebu wrth geisio cystadlu efo prisiau isel alcohol yn yr archfarchnadoedd.

“Dros yr wythnosau nesaf mi fyddwn ni’n cysylltu â thafarnwyr lleol i holi eu barn ynglyn â chyflwyno isafswm pris am alcohol.”


Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r argymhellion a wnaed mewn adroddiad diweddar gan Bwyllgor Iechyd Ty’r Cyffredin i gyflwyno isafswm pris ar alcohol. Mae argymhellion eraill yn cynnwys cyfyngu ar hysbysebion a allai gael eu gweld gan blant ynghyd â gwahardd hysbysebu alcohol ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol.

Ychwanegodd Llyr:

"Mae tystiolaeth gref gan Gymdeithas Meddygol Prydain – y BMA, ymhlith eraill, yn dangos y byddai cyflwyno isafswm pris ar alcohol yn medru gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i daclo’r diwylliant o yfed yn anghyfrifol”.

“Mae’r diwylliant presenol o brisiau isel mewn archfarchnadoedd yn gwneud drwg i nifer o dafarndai yn ein cymunedau, sy’n methu cystadlu o ran prisiau, ac sydd weithiau’n ffeindio bod cwsmeriaid wedi gor-yfed cyn cyrraedd y dafarn. Mae rhai landlordiaid cyfrifol hyd yn oed yn teimlo na ddylent werthu rhagor o ddiod iddynt.

“Rwy’n awyddus i glywed barn pobl sydd yn y diwydiant tafarndai er mwyn gwybod eu safbwynt am isafswm pris ar alcohol, ynghyd ag unrhyw gamau eraill yr hoffent weld y llywodraeth yng Nghaerdydd ac yn Llundain yn eu cymryd i gefnogi eu busnesau.

“Mae’r dafarn leol yn rhan anatod o’n cymunedau ac rydym wedi colli gormod ohonynt yn y blynyddoedd diwethaf. Rwyf am weld beth allwn ni ei wneud i gefnogi’r tafarndai sydd gennym yma, ac i’w cynorthwyo i sicrhau bod ganddynt ddyfodol llewyrchus.”


Mae cryn ofid wedi bod am lefelau uchel alcoholiaeth ar draws Cymru wrth i bobl dueddu i yfed mwy adref ynghyd â phrynu diodydd llawer cryfach nag y byddent yn y gorffennol. Mae fodca rhad yn hawdd i’w gael yn yr archfarchnadoedd ac mae’r pris isel yn annog pobl i yfed llawer mwy wrth iddynt yfed cyn mynd allan am y noson.

Dywedodd Janet Ryder AC:

“Mae tafarndai cymunedol yn medru chwarae rôl pwysig wrth helpu pobl i yfed yn gyfrifol am eu bod yn lefydd i fwy na dim ond yfed. Mae nhw’n lefydd i bobl o bob oed gyfarfod, gan gynnig cwmniaeth – yn enwedig i bobl hŷn.

“Gyda chymaint o dafarndai ar draws Cymru’n wynebu amser anodd, rydym ni eisiau cynnig cymorth ymarferol iddynt.”

No comments: