Saturday 13 February 2010

Plaid yn datgelu methiannau Canolfan Byd Gwaith yng ngogledd Cymru

Mae mwy na £275,000 wedi ei dalu i hawlwyr gan Canolfan Byd Gwith mewn taliadau am fethiannau yn ei gwasanaeth ar draws Cymru dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, gyda gogledd Cymru’n gyfrifol am elfen helaeth o hynny yn ôl ffigurau a roddwyd i Blaid Cymru.

Gwnaed y taliadau oherwydd i bobl golli budd-daliadau yn dilyn camgymeriadau, camweinyddiaeth, oedi, anghyfleustra difrifol, achosi cywilydd neu drallod difrifol.

Yn y flwyddyn ariannol 2007-08 roedd y cyfanswm a dalwyd allan yng Nghymru yn £104,537. Cododd hynny i £118,271 yn 2008-09 ac roedd yn £52,718 yn chwe mis cyntaf 2009-10. Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn datgelu bod gogledd Cymru’n gyfrifol am bron i hanner y cyfanswm.

Yn 2007-08 a 2008-09 cael hawl i fudd-daliadau oedd ar frig y rhestr o gwynion, yn cynrychioli 32% o’r holl gwynion yn 2007-08 a 35% yn 2008-09.

Yn ôl Canolfan Byd Gwaith, tra bod nifer y staff yng Nghymru wedi cynyddu o 4,562 i 5,398, roedd y nifer oedd yn hawlio eu bod yn ddiwaith wedi saethu fyny o 45,419 yn Ionawr 2007 i 78,234 yn Hydref 2009.

Dywedodd Phil Edwards, Ymgeisydd seneddol Plaid Cymru dros Aberconwy:

“Tra bod cynnydd wedi bod yn staff Canolfan Byd Gwaith, mae llawer o’r gweithwyr newydd ar gytundebau tymor penodol. Mae’n rhaid mesur hyn yn erbyn cau canolfannau gwaith, megis yn Llanrwst, a’r posibilrwydd o doriadau pellach yn y dyfodol. Mae’r gweithwyr o dan bwysau wrth i’w niferoedd parhaol leihau ac wrth i safleoedd gau ar draws y gogledd.

“Mae’n debyg bod symudiadau ar droed o fewn yr Adran Waith a Phensiynau (DWP) i drosglwyddo staff allan o ganolfannau gwaith i ganolfannau galw mewn ymdrech i wneud i bobl gysylltu â nhw ar y ffôn neu ar y wê. Ond yn amlwg mae’n well gan nifer fawr o bobl wneud cyswllt wyneb yn wyneb mewn amgylchiadau fel hyn, ac mae’r fath ddatblygiad yn annerbyniol.”


Nododd ymgeisydd seneddol y blaid dros Orllewin Clwyd Llyr Huws Gruffydd bod hysbysebion wedi ymddangos am weithwyr clreigol, ond nad oedd hynny o reidrwydd y newyddion da a ymddangosai:

“Mae nhw mewn gwirionedd yn dad-sgilio gwaith ac arbenigeddau mewn meysydd penodol gan ddisgwyl i weithwyr ddelio efo pob math o ymholiadau. Rydym wedi gweld bod disgwyl i staff mewn canolfannau galw masnachol gael pobl oddi ar y linell ffôn mor sydyn a phosib. Dydi hyn ddim yn awyrgylch addas i ddelio â materion cyflogaeth a diweithdra.

“Rwy‘n gofidio y byddai unrhyw doriadau mewn staff yn arwain nid yn unig at golli swyddi ond hefyd at fwy o hawliadau yn erbyn Canolfan byd Gwaith. Mae’n rhaid i’r rheolwyr ystyried yn ofalus holl oblygiadau unrhyw benderfyniad i leihau gwasanaethau a fydd yn effeithio’r cyhoedd.”


Ychwanegodd Phil Edwards:

“Ddylem ni ddim anghofio am funud bod hyn oll yn digwydd yn ystod dirwasgiad, a phan fod ein Llywodraeth Cymru’n Un yn gwneud pob ymdrech i amddiffyn gweithwyr trwy gynlluniau megis ProAct a ReAct.”

“Mae’n ymddangos o’r ffigurau yma bod toriadau swyddi yn yr Adran Waith a Phensiynau’n amlwg yn cael effaith ar ansawdd y gwasanaeth y mae staff sydd eisoes o dan bwysau yn medru ei roi.”

No comments: