Sunday 28 February 2010

Cynhadledd

Cafwyd cynhadledd wych yng Nghaerdydd y penwythnos diwethaf.

Roedd ysbryd pawb yn bositif iawn gydag aelodau a chefnogwyr yn synhwyro y gallai'r etholiad fod yn un arwyddocaol iawn i'r blaid.

Fe gymerais y cyfle i drafod ystod eang o bynciau yn y cyfarfodydd ymylol. Ond yr uchafbwynt imi oedd bod yn rhan o'r sesiwn Clicio Cyflym Polisi roddodd y cyfle i gynrychiolwyr o elusennau a chyrff eraill holi ymgeisyddion fel fi am faterion oedd o bwys iddynt.

Mi ddysgais lawer ac mae wedi fy ngwneud hyn yn oed yn fwy penderfynol bod angen i bethau newid.

Llyr Huws Gruffydd

No comments: