Tuesday 9 February 2010

Peidiwch cael eich twyllo wrth werthu aur, medd Plaid Cymru

Byddwch yn wyliadwrus wrth werthu eitemau aur i gwmniau sy’n hysbysebu ar y teledu. Dyna ddywed ymgeisydd seneddol Plaid Cymru dros Orllewin Clwyd Llyr Huws Gruffydd sy’n rhybuddio y gallai’r prisiau a gynnigir gan y cwmniau hyn fod yn sylweddol is na gwerth gwirioneddol yr eitemau aur.

Dywedodd:

"Yn hytrach na brysio i werthu gemwaith aur ac eitemau eraill, o bosib i gael dau ben llinyn ynghyd ar adeg anodd, mae’n werth chwilio o gwmpas am y prisiau gorau. Mae’n bosib y gallai’r gemydd lleol gynnig gwell pris am aur.

"Mae’n gyfnod economaidd anodd ac fe allai pobl gael eu denu gan un o’r hysbysebion teledu sy’n cael eu darlledu’r dyddiau yma, weithiau’n cynnwys enwogion. Ond mae ‘na opsiynau eraill. Mae rhai o’r cwmniau yma sy’n hysbysebu ar y teledu’n ceisio cymryd mantais o bobl sydd angen pres ychwanegol, neu sy’n ei chael hi’n anodd ar ol gwario cymaint dros y Nadolig."


Mae ei sylwadau’n dilyn cyhoeddi adroddiad gan Which? a amlygodd nad yw’r gwasanaethau prynnu aur a hysbysebir ar y teledu bob tro’n cynnig gwerth am arian, gan argymell y dylid eu hosgoi. Anfonodd Which? dri darn o emwaith aur newydd sbon i bedwar prynnwr aur a oedd yn hysbysebu eu gwasanaeth ar y teledu, ynghyd ag at dri gemydd anibynnol a thri pawnbroker. Y prynwyr aur oddi ar y teledu roddodd y prisiau isaf bob tro.

Ychwanegodd Llyr Huws Gruffydd:

"Mae’r ymchwil a gwblhawyd gan ‘Which?’ wedi dangos bod y prisiau a dalwyd ar gyfartaledd lawer yn is na’r prisiau a gynigwyd gan emyddion y stryd fawr, ac mewn rhai achosion roedd y gwahaniaeth yn frawychus. Mae’r neges yn glir – mae’n werth chwilio yn nes at adref am well gwerth am arian.”

Mae Which? Money yn rhybuddio’r rhai sydd am werth eu haur nad yw cwmniau sy’n hysbysebu eu gwasanaeth drwy’r post ar y teledu’n cynnig gwerth am arian - ac y dylid eu hosgoi. Ar gyfartaledd roeddynt yn cynnig dim ond 6% o werth manwerthu’r aur o’i gymharu a tua 25% a gynnigwyd gan gwmniau’r stryd fawr. Roedd Which? Hefyd yn gofidio bod yr amlenni a ddefnyddiwyd i anfon eitemau yn amlwg yn cynnwys gemwaith. Ceir manylion pellach ar Which?



No comments: