Thursday 11 February 2010

Llyr yn galw am deyrngarwch lleol: Cerdyn Cymru

Mae archfarchnadoedd a siopau eraill yn cael eu hannog i wobrwyo cwsmeriaid am brynu cynnyrch lleol trwy gynnig pwyntiau bonws ar gardiau teyrngarwch. Mae ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru yng Ngorllewin Clwyd, Llyr Huws Gruffydd wedi ysgrifennu at siopau yn ei etholaeth i awgrymu y byddai ‘Cerdyn Cymru’ yn hwb mawr i’r economi leol.

Mae Llyr Huws Gruffydd yn annog y siopau i ystyried mabwysiadu cynllun Cerdyn Cymru, a allai fod yn gysylltiedig â chardiau teyrngarwch archfarchnadoedd ar un llaw, neu’r cardiau “siopwch yn lleol” sydd ar gael mewn ambell dref.

Dywedodd:

“Mae nifer o’r siopau mawrion bellach yn cynig rhyw fath o gynlluniau sy’n rhoi pwyntiau am deyrngarwch. Cynigir y pwyntiau am brynu cynnyrch penodol, er enghraifft gellir ennill ‘pwyntiau gwyrdd’ am fod yn amgylcheddol gyfeillgar, neu gael pwyntiau ychwanegol am brynu cynnyrch masnach deg.

“Ein hawgrym ni yw y dylid gweithredu system debyg sy’n annog cwsmeriaid i brynu nwyddau a gynhyrchwyd yn lleol, ynghyd â chynnyrch Cymreig yn gyffredinol.

“Mi fyddai’n ffordd gwych i hybu’r economi leol trwy annog cwsmeriaid i gefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd Cymreig.

“Byddai nifer o fanteision i Gerdyn Cymru. Mi fyddai’n annog mwy o fwyta iach, yn torri i lawr ar filltiroedd bwyd, ac yn gymorth i nifer o fusnesau megis ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd – rhywbeth allai fod yn dyngedfennol yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.”


Fel rhan o Lywodraeth Cymru mae Plaid Cymru eisoes wedi gweithredu i annog pobl i brynu cynnyrch Cymreig. Llynedd fe lansiodd Gweinidog Plaid Cymru Elin Jones (sydd â chyfrifoldeb dros ffermio a bwyd) y Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol, sydd â’r nod o sicrhau bod mwy o gynnyrch bwyd lleol yn cael ei fwyta’n lleol.

Dywedodd Elin Jones AC:

"Mae’n dda gweld syniadau gwreiddiol i gefnogi cynnyrch Cymreig. Mi allai’r fenter leol hon fod yr union beth i gefnogi bwyd a diod lleol. Mi fydd gen i ddiddordeb gweld sut bydd hwn yn datblygu ymhellach."

Doedd ymgeisydd Plaid Cymru Llyr Huws Gruffydd ddim yn gweld rheswm pam na ddylai Cymru gael ei chynllun ei hun:

“Mae gan y Gwyddelod gynllun Shamrock lle gall siopwyr sy’n prynu cynnyrch lleol ennill pwyntiau ychwanegol ar gardiau teyrngarwch yn yr archfarchnadoedd. Mae’r Albanwyr hefyd yn edrych ar ddatblygu cynllun o’r fath.

“Byddai fersiwn Gymreig yn gymorth i helpu sicrhau bod siopwyr yma’n ffocysu ar brynu cynnyrch Cymreig, gan roi hwb i’r diwydiant amaeth yng Nghymru.

“Rydym yn annog archfarchnadoedd, siopau a chynhyrchwyr i weithio gyda’i gilydd i ystyried creu cynllun yma yng Nghymru.”


Llynedd lansiodd Elin Jones y “Cynllun Gweithredu Cyrchu Bwyd” sydd â’r nod o sicrhau bod mwy o fwyd sydd wedi ei gynhyrchu’n lleol yn cael ei fwyta’n lleol – boed trwy gytundebau sector gyhoeddus, archfarchnadoedd neu fwytai.

Mae hi hefyd yn datblygu polisi yn ymwneud a Thyfu Bwyd Cymunedol – eto, i edrych ar ffyrdd arloesol o gynyddu faint o fwyd sy’n cael ei gynhyrchu a’i fwyta’n lleol.

No comments: