Trefnwyd y noson gan gangen Pentrecelyn a daeth aelodau o ganghennau cyfagos i ymuno â nhw. Hefyd ar y panel oedd y ffigurau amlwg lleol Alun Edwards, Nia Môn ac Eirwyn Evans. Roedd y pynciau a drafodwyd yn eang a dweud y lleiaf, gyda chwestiynau yn amrywio o farn y panel am achos John Venables i'n hoff fwydydd a lleoliadau gwyliau!
Diolch o galon i Sefydliad y Merched Pentrecelyn am eu croeso cynnes ac am noson hwyliog.
Llyr Huws Gruffydd
No comments:
Post a Comment