Wednesday 3 March 2010

Amser i Dorïaid Gorllewin Clwyd dalu nôl?

Yn dilyn y datguddiadau am ariannu’r blaid Gweidwadol yr wythnos hon – sef nad yw prif noddwr a dirprwy gadeirydd y blaid, yr Arglwydd Ashcroft, wedi ei gartrefu ym Mhrydain at ddibenion treth – mae Llyr Huws Gruffydd o Blaid Cymru wedi cwestiynu os yw Ceidwadwyr Gorllewin Clwyd yn bwriadu ad-dalu’r pres a gawsant gan gwmni Ashcroft. Yn ôl cyfrifon y blaid fe dderbyniwyd swm pum ffigwr sylweddol.

Dywedodd Llyr, a fydd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yng Ngorllewin Clwyd yn yr Etholiad Cyffredinol:

“Er gwaethaf ymdrechion i bortreadu’u hunain yn wahanol, fe welwn bellach mai’r un hen Geidwadwyr ydi plaid David Cameron. Mae nhw wedi bod yn osgoi ateb cwestiynau ar y mater yma ac mae wedi cymryd amser maith iddyn nhw gyfaddef nad yw’r Arglwydd Ashcroft wedi ei gartrefu yma at ddibenion treth, ac o ganlyniad ei fod wedi osgoi talu trethi ar lawer iawn o’i incwm sylweddol.

“Mae eu slogan am newid yn wag a diystyr. Tra bod y gweddill ohonom yn gorfod wynebu toriadau o bob math yn sgil y dirwasgiad, mae arweinwyr blaenllaw’r Ceidwadwyr yn brysur yn osgoi talu trethi, ac yn yr achos hwn yn cyfrannu symiau aruthrol i’w plaid.

“Mae angen i David Jones a’i gyd-Geidwadwyr yng Ngorllewin Clwyd ystyried o ddifrif os yw hi’n foesol ac yn weddus iddyn nhw gadw’r pres a gyfrannwyd iddynt gan y gwr yma.”

Dywedodd Llyr Huws Gruffydd ei fod yn falch o’r ffaith fod Plaid Cymru’n gweithio’n galed i godi pres drwy ei haelodau.

“Does ganddo ni ddim rhwymedigaeth i ddylanwadau allanol nac arianwyr mawr sydd yn talu pres ac yna’n mynnu dylanwadu ar bolisi. Mae angen dangos i Cameron a’i griw nad yw Cymru ar werth.

“Yn wahanol i’r Arglwydd Ashcroft mae’n calonnau ni yma yn ein gwlad ein hunain.”


Yn ôl datganiad o’u cyfrifon a gyflwynwyd i’r Comisiwn Etholiadol, fe wnaeth Bearwood Corporate Services gyfraniad o £15,000 i’r Blaid Geidwadol yng Ngorllewin Clwyd yn 2005. Bearwood yw’r cyfrwng a ddefnyddiwyd gan Ashcroft i drosglwyddo pres i wahanol rannau o’r blaid Geidwadol. Gweler tudalen 5 o’r linc.

Mae tudalen gartref gwefan Ashcroft yn dweud: Belize - "If home is where the heart is then Belize is my home.”

Mae ffigurau gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod yr Arglwydd Ashcroft wedi cyfrannu mwy na £5miliwn i’r Blaid Geidwadol i’w ddefnyddio mewn seddi ymylol er mwyn cynorthwyo’r Ceidwadwyr i ennill yr etholiad nesaf.

No comments: