Neithiwr mi gymerais ran mewn noson Hawl i Holi gyda Sefydliad y Merched.
Trefnwyd y noson gan gangen Pentrecelyn a daeth aelodau o ganghennau cyfagos i ymuno â nhw. Hefyd ar y panel oedd y ffigurau amlwg lleol Alun Edwards, Nia Môn ac Eirwyn Evans. Roedd y pynciau a drafodwyd yn eang a dweud y lleiaf, gyda chwestiynau yn amrywio o farn y panel am achos John Venables i'n hoff fwydydd a lleoliadau gwyliau!
Mae'r wobr am ateb gorau'r nosoon yn mynd i Eirwyn. Pan holwyd iddo be oedd ei brif gryfder a'i brif wendid fe atebodd mai ei brif gryfder oedd nad oedd ganddo unrhyw wendidau!
Diolch o galon i Sefydliad y Merched Pentrecelyn am eu croeso cynnes ac am noson hwyliog.
Llyr Huws Gruffydd
What about the inhabitants?
9 hours ago
No comments:
Post a Comment